Welsh language materials for charities
We are grateful to Wales Council for Voluntary Action for their help translating the following materials:
Awgrymiadau da ar sut i gymryd rhan yn y Mis Rhoi drwy’r Gyflogres
Dyma ein pum syniad da ar sut i gymryd rhan mewn proses Rhoi drwy’r Gyflogres yn ystod y Mis Rhoi drwy’r Gyflogres:
Dechreuwch sgwrs yn y gwaith: Beth am ddechrau trafodaeth gyda’ch cyflogwr ynghylch rhoi cynllun Rhoi drwy’r Gyflogres ar waith? Os oes un eisoes yn bodoli, ceisiwch annog cydweithwyr i gymryd rhan drwy rannu gwybodaeth am ei fuddion a pha mor hawdd ydyw i’w ddefnyddio.
Trefnwch roddion rheolaidd: Os yw eich gweithle yn cynnig proses Rhoi drwy’r Gyflogres, cofrestrwch i roi rhoddion rheolaidd. Gall hyd yn oed symiau bychain wneud gwahaniaeth mawr pan gânt eu rhoi’n gyson.
Dewch yn Hyrwyddwr Rhoi drwy’r Gyflogres: Beth am wirfoddoli fel cefnogwr Rhoi drwy’r Gyflogres yn eich gweithle? Gallech drefnu sesiynau gwybodaeth, dosbarthu deunyddiau a bod yn gyswllt i gydweithwyr â diddordeb mewn cymryd rhan.
Cymerwch ran mewn Rhaglenni Paru: Gwiriwch a yw eich cyflogwr yn cynnig rhoddion cyfatebol drwy’r broses Rhoi drwy’r Gyflogres. Os yw, manteisiwch i’r eithaf ar hyn i ddyblu eich effaith. Os nad yw, awgrymwch roi rhaglen o’r fath ar waith.
Lledaenwch y gair ar Gyfryngau Cymdeithasol: Defnyddiwch eich platfformau cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth am y Mis Rhoi drwy’r Gyflogres. Postiwch am yr hyn rydych chi’n ei wneud, buddion y cynllun, ac anogwch eraill yn eich rhwydwaith i gymryd rhan neu ofyn i’w gweithleoedd amdano. Cofiwch yr hashnodau #MisRhoiDrwyrGyflogres #CaruRhoiDrwyrGyflogres #PayrollGivingMonth #LovePayrollGiving.